Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
- Employer
- Not For Profit People
- Location
- Cardiff
- Salary
- £30785 - £32486 Per Annum
- Closing date
- 28 Jun 2019
View more
- Sector
- Marketing, Advertising, PR
- Hours
- Full Time
- Flexibility
- Flexible working available
- Contract Type
- Permanent
Job Details
Mae ein cleient yn chwilio am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu profiadol i chwarae rôl hanfodol yn darparu arweinyddiaeth ar draws ei weithgareddau aelodaeth, marchnata a chyfathrebu.
Ein cleient yw’r mudiad aelodaeth cenedlaethol i’r trydydd sector a gwirfoddoli yng Nghymru. Ei nod yw gweithio tuag at ddyfodol lle mae’r trydydd sector a gwirfoddoli yn ffynnu ledled Cymru, gan wella llesiant i bawb.
Swydd: Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Lleoliad: Caerdydd
Cyflog: £30,785 yn codi i £32,486 y flwyddyn ar ôl cyfnod prawf 6 mis.
Hyd: Llawn Amser, Parhaol
Oriau: 35 awr yr wythnos. Ceir cynllun oriau hyblyg a chaniateir amser i ffwrdd yn lle unrhyw waith y mae'n ofynnol ei wneud y tu allan i oriau swyddfa arferol.
Dyddiad Cau: dydd Gwener 28ainMehefin 2019
Darpar ddyddiad y diwrnod asesu/cyfweliad: 8fed Gorffennaf 2019
Gweithlu gwahanol:
Mae swydd gyda’n cleient yn cynnig cyflogaeth hyblyg i chi sy’n gwneud gwahaniaeth. Mae ganddo gynllun oriau hyblyg i’ch helpu i drefnu’ch gyrfa o amgylch eich ymrwymiadau personol, yn ogystal â 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod ychwanegol yn ôl disgresiwn (a ddefnyddir fel arfer pan fo’r swyddfa ynghau dros y Nadolig). Mae hefyd yn cynnig cyfraniad pensiwn hael.
Mae wedi sicrhau achrediad ‘Buddsoddwyr mewn Pobl’ a Marc Ansawdd Elusen Ddibynadwy, gan annog staff i gymryd rhan yn y Cynllun Gwirfoddoli i Gyflogeion. Ac yntau’n frwd o blaid cyfle cyfartal, y ‘cyflog byw go iawn’ a lles yn y gweithle, ni allech ddod o hyd i gyflogwr mwy ymroddedig i’w staff!
Ynglyn â’r Rôl:
Fel Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu byddwch yn chwarae rôl flaenllaw i ddarparu cynnig aelodaeth a rhaglen ymgysylltu wedi’u hailwampio gan roi aelodau wrth wraidd popeth yr ydych yn ei wneud. Byddwch yn arwain ac yn rheoli’r tîm aelodaeth a marchnata.
Mae hon yn rôl newydd hollbwysig i’r mudiad, mae ein cleientyn awyddus i gynnwys ei aelodau yn ei waith drwyddo draw, nid dim ond yn derbyn gwasanaethau a buddion aelodau ond yn mynd ati i siapio ei waith a chyflawni ei weledigaeth i’r trydydd sector yng Nghymru.
Amdanoch chi:
Bydd y Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu llwyddiannus yn arweinydd medrus, ac mae’r sgiliau a’r profiad canlynol yn hanfodol i’r rôl:
- Profiad perthnasol sylweddol o weithio ym maes aelodaeth, marchnata a/neu gyfathrebu, gan gynnwys tyfu a rheoli cynulleidfaoedd lluosog
- Y gallu i greu cynnwys apelgar ac o weithio mewn sianeli amrywiol gan gynnwys rhai traddodiadol, mewn digwyddiadau, ar y we, rhai cymdeithasol ac ebost
- Profiad o gynnal ymgyrchoedd marchnata a/neu gyfathrebu effeithiol i gyflawni canlyniadau llwyddiannus
- Y gallu i reoli cyflawni allbynnau o safon mewn amgylchedd dwyieithog
Er nad yw’n hanfodol, byddai profiad a gallu yn y Gymraeg yn ddymunol iawn, fel y byddai dealltwriaeth o sector gwirfoddol Cymru. Byddai cymhwyster proffesiynol a/neu aelodaeth o gorff proffesiynol mewn maes perthnasol a dealltwriaeth o systemau CRM hefyd yn hybu’ch cais.
Mae’n bosib y bydd gennych brofiad o swyddi tebyg i’r canlynol: Rheolwr Marchnata, Rheolwr Aelodaeth, Cyfathrebu a Marchnata, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Rheolwr Ymgysylltu ag Aelodau, Rheolwr Ymgysylltu a Chyfathrebu, Pennaeth Marchnata, Rheolwr Ymgyrchoedd Marchnata, Uwch Gydlynydd Marchnata a Chyfathrebu, Ymgysylltu ag Aelodau, Rheolwr Marchnata a Phartneriaethau
Company
We are Not-For-Profit People.
We recruit exclusively for organisations in the challenging Not-For-Profit sector. We’re fully behind the charities and bodies that aim to change the world – one project at a time. Whether you’re seeking exceptional leaders, committed staff or a combination of the two, you probably want to know exactly how we’re different and why it matters to you. We don’t do business as usual. We deliver a recruitment solution that replaces clunky, costly, contracted processes with a single, seamless solution.
- Website
- https://www.nfp-people.co.uk/
Get job alerts
Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.
Create alert