Skip to main content

This job has expired

Cadeirydd ac Ymddiriedolwr Cymru

Employer
Stroke Association
Location
Wales
Salary
Unremunerated (expenses covered)
Closing date
29 Jul 2020

View more

Amdanom ni

Cymdeithas Strôc. Ailadeiladu bywydau yn dilyn strôc.

Pan fydd strôc yn taro, mae rhan o’ch ymennydd yn cau i lawr. Ac mae rhan ohonoch chi yn cau i lawr hefyd. Mae hynny oherwydd bod strôc yn digwydd yn yr ymennydd, y ganolfan sy’n rheoli pwy ydym ni a beth allwn ni wneud. Mae’n digwydd bob pum munud yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n newid bywyd yn syth. Mae ymadfer yn anodd, ond gyda’r cymorth arbenigol cywir a llwyth o ddewrder a phenderfyniad, gall yr ymennydd addasu.

Credwn fod pawb yn haeddu byw’r bywyd gorau y gallant yn dilyn strôc. Ac ymdrech tîm yw hi i gyflawni hynny.

Rydym yn darparu cymorth arbenigol, yn ariannu ymchwil hanfodol ac yn ymgyrchu i sicrhau bod pobl yr effeithir arnynt gan strôc yn cael y gofal a’r cymorth gorau posibl i ailadeiladu’u bywydau.

Bob pum munud, mae strôc yn dinistrio bywydau. Helpwch ni i ailadeiladu’r bywydau hynny ac ymunwch â’n tîm.

Mae’r Gymdeithas Strôc yn chwilio am Gadeirydd newydd ar gyfer Pwyllgor Cynghori Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynrychioli Cymru ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr hefyd. Yn ddelfrydol, dylai ymgeiswyr feddu ar sgiliau busnes gwerthfawr a hanes nodedig o brofiad o strôc a gwybodaeth am strôc, yn ogystal â gweithgareddau rhwydweithio sefydledig gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a dealltwriaeth o gyd-destun gwleidyddol strôc yng Nghymru.  

Bydd y sawl a benodir yn cydweithio gydag Ymddiriedolwyr eraill y Gymdeithas, Aelodau Pwyllgor Cynghori Cymru, sefydliadau’r cyfryngau a chyrff ariannu i ganfod cyfleoedd i hyrwyddo’r Gymdeithas Strôc yng Nghymru er mwyn cefnogi’r Uwch Dîm Rheoli yng Nghymru ac eiriol dros fuddiant i bobl yr effeithir arnynt gan strôc. Bydd y Cadeirydd/Ymddiriedolwr yn gweithio fel llysgennad dros weithgareddau a digwyddiadau’r Gymdeithas Strôc yn y gymuned.

Mae gan y Gymdeithas Strôc Dîm Gyfarwyddwyr Gweithredol a Bwrdd o Ymddiriedolwyr cryf sy’n cyfarfod yn rheolaidd mewn lleoliadau amrywiol yn y DU (ond yn Llundain yn bennaf) i ffurfio, gweithredu a llywodraethu strategaethau’r elusen.

Nid oes unrhyw gydnabyddiaeth ariannol yn cyd-fynd â rôl Ymddiriedolwr; fodd bynnag, rydym yn barod i dalu treuliau Ymddiriedolwyr o fewn polisi treuliau’r Gymdeithas Strôc.

Cliciwch yma i lawrlwytho ein pecyn cais ac i gael mwy o wybodaeth

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher 29 Gorffennaf 2020.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ddechrau mis Medi. Ar hyn o bryd, rydym yn disgwyl i’r cyfweliadau hynny gael eu cynnal drwy fideo-gynadledda.

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert